Gwnaed â Gwlân
AMDANOM NI
Y Prosiect
Dod â rhanddeiliaid Gwlân Cymru ynghyd i wireddu potensial gwlân fel deunydd naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas, trwy adeiladu ar ei dreftadaeth gyfoaethog, gwella dealltwriaeth, hwyluso cydweithredu a chynnig atebion cynnyrch arloesol i heriau cyfredol.
GWYLIWCH FIDEOS EIN PROSIECT


Mae’r prosiect hwn ledled Cymru yn dwyn ynghyd rwydwaith helaeth o randdeiliaid sy’n cynrychioli pob rhan o’r gadwyn gyflenwi gwlân.
Dyluniwyd y prosiect cyffrous hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynwyd gan Menter Môn, gyda’r nod o ‘Ddod â rhanddeiliaid Gwlân Cymru ynghyd I wireddu potensial gwlân fel deunydd naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas, trwy adeiladu ar ei dreftadaeth gyfoethog, gwella dealltwriaeth, hwyluso cydweithredu a chynnig atebion cynnyrch arloesol I heriau cyfredol.
Nodau’r prosiect yw:
Adeiladu ecosystem fywiog ar gyfer Sector Gwlân Cymru
Hwyluso cyfleoedd cadwyn gyflenwi presennol
Treialu cynhyrchion arloesol gwerth uchel wedi’u gwneud â Wlân Cymru.
Ymunwch a’r grwp clwstwr i dderbyn diweddaridau ar y prosiect yn ogystal a chael y cyfle i rannu eich barn neu eich arbennigedd a’n helpu i’w yrru ymlaen.
Gallwch ein dilyn ar Instagram, Facebook, Twitter ac Youtube, a pheidiwch ag anghofio edrych ar brosiectau eraill Menter Môn ar www.mentermon.com
7 hours ago
Sharing on behalf of one of our cluster members, great opportunity of you're in the area!![]()
Rhannu ar ran un o aelodau ein clwstwr, cyfle gwych os ydych yn yr adral!![]()
Amgueddfa Wlân Cymru - National Wool Museum
... See MoreSee Less
13 hours ago
Mae Newyddlen mis Mawrth allan!
Our March Newsletter is out!![]()
Os hoffech dderbyn ein newyddlen i gael diweddariadau am beth sydd yn mynd ymlaen ofewn y prosiect ac i gael cyfle i ddweud eich barn, ymunwch a'r clwstwr: gwnaedagwlan.cymru/cluster-group-form/![]()
If you would like to receive our newsletter for updates on what's going on within the project as well as the opportunity to have your say, join our wool cluster by following the link: gwnaedagwlan.cymru/cluster-group-form/![]()
Menter Môn Rhwydwaith Gwledig Cymru - Wales Rural Network
... See MoreSee Less
2 days ago
Cyn ein gweminar yfory ar ganfyddiadau'r adroddiad ar waith cadwyni cyflenwi gwlân, crëwyd siart lif sy'n cwmpasu'r gwahanol gamau wrth brosesu gwlân. ![]()
Mae'r gadwyn brosesu gwlân yn gymhleth gyda'r camau niferus sy'n gysylltiedig â'i drin a'i droi'n gynnyrch terfynol. Prin yw'r ddealltwriaeth y tu hwnt i giât y fferm o'r hyn sy'n digwydd i'r cnu, ac mi fydd yr adnoddau o'r gwaith hwn yn hwyluso gwell dealltwriaeth er mwyn amlygu cyfleoedd posib i ffermwyr ac eraill o fewn y gadwyn gyflenwi ychwanegu gwerth i wlân o Gymru.![]()
Darllennwch yr astudiaeth yn ei gyfanrwydd yma: gwnaedagwlan.cymru/cy/reports-studies/![]()
Cofrestrwch ar gyfer y weminar yma: www.eventbrite.co.uk/e/558705702797![]()
Menter Môn Rhwydwaith Gwledig Cymru - Wales Rural Network Wool Testing Authority Europe Ltd Grŵp Ymgynghori Lafan Consulting Group
... See MoreSee Less