Datblygu Cynnyrch
Mae'r prosiect 'Gwnaed â Gwlân' wedi bod yn gweithio gyda'r ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu 5 cynnyrch arloesol o werth uchel sydd wedi eu creu gan ddefnyddio gwlân Cymreig.
Rydym yn gwahodd busnesau neu unigolion i ddatgan eu ddiddordeb mewn mynd a cynnyrch i'r farchnad wrth gysylltu gyda'r tîm neu llenwi'r ffrflen drwy glicio'r bwtwm isod.
ERBYN HYN MAE LLAWER O'R PROTOTEIPIAU WEDI EU CYDWEDDU AG UNIGOLION NEU FUSNESAU
Y Cynhyrchion
Protein ffibrog yw ceratin sy’n rhoi cryfder a strwythur i feinweoedd anifeiliaid, fel gwallt, ewinedd, cyrn a phlu. Mae ei briodoleddau’n ei wneud yn ddeunydd deniadol i amryw ddiwydiannau, sy’n cynnwys cynhyrchion cosmetig, meddyginiaeth, a phlastigau bioddiraddadwy. Fodd bynnag, mae ffynonellau traddodiadol ceratin, fel gwallt dynol a phlu, yn codi cwestiynau moesegol. Ond mae gwlân dafad ar y llaw arall yn ffynhonnell ceratin adnewyddadwy a thoreithiog.
Gwlân Mewn Gorchuddion Inswleiddiedig ar gyfer Trolïau
Bydd archfarchnadoedd yn aml yn defnyddio trolïau i symud eu cynhyrchion sydd wedi’u hoeri. Mae’r trolïau hyn wedi’u dylunio’n arbennig i gadw eitemau ffres o fewn amrediad tymheredd diogel, o dan 5°C fel arfer. Yn aml, ceir trolïau gydag unedau oeri wedi’u gosod arnynt, ond gellir cael trolïau nad ydynt yn cael eu hoeri, y gellir gosod gorchuddion inswleiddiedig drostynt i gludo cynhyrchion sydd wedi’u hoeri. Mae rhai o’r mathau mwyaf cyffredin o sbwng a ddefnyddir i wneud gorchuddion ar gyfer trolïau’n cynnwys polyethylen, polywrethan, a pholyethylen trawsgysylltiedig. Oherwydd ei briodoleddau ardderchog o safbwynt inswleiddio, yn ogystal â gallu naturiol i reoli tymheredd a lleithder, byddai’n bosibl defnyddio gwlân dafad yn lle deunyddiau sbwng traddodiadol.
Gwlân dafad mewn deunyddiau cyfansawdd
Defnyddiwyd ffibrau naturiol mewn deunyddiau cyfansawdd ers degawdau. Mae’r ffibrau naturiol mewn deunydd cyfansawdd yn darparu’r matrics strwythurol sy’n gwella priodoleddau mecanyddol y deunydd. Mae gwlân wedi dangos priodoleddau manteisiol, nid yn unig o safbwynt cryfder, ond o ran priodoleddau eraill fel rhai acwstig thermol a gwrthiant tân.
This product has now been matched with Composites Cymru

Insiwleiddiad Gwlân Defaid Rhydd
Mwynhewch fanteision eithriadol insiwleiddiad gwlân defaid, datrysiad cynaliadwy a naturiol sydd nid yn unig yn gwella effeithlonrwydd gwresol ond hefyd yn gwella ansawdd aer dan do yn sylweddol. Mae’r poster hwn yn cyflwyno ein gwaith ymchwil ar wahanol fathau o wlân a’u priodweddau rhyfeddol, gan ganolbwyntio ar eu galluoedd insiwleiddio a’u heffaith gadarnhaol ar ansawdd aer dan do. Datguddiwch bŵer insiwleiddiad gwlân defaid a chrëwch amgylchedd sydd nid yn unig yn ynni-effeithlon ond hefyd yn iachach ac yn fwy pleserus.
Priodoleddau Acwstig Gwlân Dafad
Oherwydd costau cynhyrchu is a manteision o ran gwarchod yr amgylchedd, mae mwy o ystyriaeth yn cael ei roi i ddefnyddio deunyddiau naturiol fel dewis arall yn lle defnyddio tawelwyr sain confensiynol. O ran y gallu i dawelu sain, mae gwlân dafad yn dangos priodoleddau tebyg i ddeunyddiau inswleiddio eraill, fel gwlân mwynol a sbwng polywrethan.
Gwlân dafad fel swbstrad tyfu ar gyfer hydroponeg
Cyfryngau tyfu yw deunyddiau y mae planhigion yn tyfu ynddynt. Byddwch yn defnyddio pridd fel arfer fel y cyfrwng traddodiadol ar gyfer tyfu planhigion. Ond mewn Hydroponeg, nid dim ond pridd a ddefnyddir. Un o’r swbstradau tyfu mwyaf cyffredin ar gyfer hydroponeg yw gwlân mwynol. Mae llawer o ffermydd hydroponeg yn cael problemau o safbwynt ailddefnyddio ac ailgylchu’r gwlân ynysu ar ôl ei ddefnyddio ar gyfer tyfu planhigion yn eu tai gwydr felly ceir diddordeb cynyddol mewn defnyddio swbstradau organig y gellir eu compostio’n gyfan gwbl.

Hidlwyr Gwlân Defaid
Mae llygredd aer dan do yn bryder cynyddol, gyda chyfansoddion organig cyfnewidiol (VOCs) yn fygythiad sylweddol. Cyflwynwn ddyfais hidlo aer arloesol sy’n defnyddio gwlân defaid fel hidlydd naturiol ac effeithiol. Mae ein hymchwil wedi archwilio galluoedd amsugno gwahanol fathau o wlân, gan ganolbwyntio’n benodol ar fformaldehyd nwyol, tolwen, limonen, a dodecan. Mae nifer o fanteision i hidlwyr gwlân defaid a’u potensial i wella ansawdd aer dan do.

Bydd map ffordd yn cyd-fynd â phob cynnyrch a fydd yn rhoi manylion am gymhwysiad pob cynnyrch, gofynion gweithgynhyrchu, manylebau technegol a chyfleoedd marchnad yn ogystal â chefnogaeth bwrpasol gan y Ganolfan Biogyfansoddion a Menter Môn
Cefndir
Yn dilyn galwad agored a datblygiad mewnol o syniadau am gynnyrch, cyflwynwyd rhestr gychwynnol i’r clwstwr gwlân Cymru dros weminar ar y 30ain o Fawrth 2022. Gwahoddwyd y clwstwr i roi adborth ar pa 5 prototeip yr hoffent weld yn cael eu datblygu a’u prototeipio ar gyfer y farchnad.
Meini prawf ar gyfer y cynhyrchion oedd y canlynol:
- I fod yn nofel ac yn unigryw
- Defnyddio symiau sylweddol o wlân Cymreig
- I ychwanegu gwerth i wlân Cymreig (dylanwadu
ar brîs y farchnad) - I gael rhyddid i weithredu
