Mae prosiect arloesol Menter Môn i wireddu potensial enfawr gwlân Cymreig yn mynd o nerth i nerth wrth i’r fenter gymdeithasol weithio gyda Chanolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor i ddatblygu pump prototeip allan o gynnyrch gwlân.
Yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Menter Môn, bwriad ‘Gwnaed â Gwlân’ yw gwella dealltwriaeth pobl o'r ffibr hwn. Nod y cynllun yw cynnig atebion arloesol i heriau sy'n wynebu'r gadwyn gyflenwi, hwyluso cynnyrch newydd, ac ychwanegu gwerth at wlân Cymreig fel cynnyrch naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas.
Dywedodd Graham Ormondroyd o Ganolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor: “Rydyn ni yn hynod falch i fod yn gweithio gyda Menter Môn ar y prosiect hwn. Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan fawr mewn arloesedd, gwyddoniaeth a thechnoleg yng ngogledd Cymru. Y gobaith ydi y bydd y prototeipiau hyn yn datblygu ac yn cynnig ffyrdd newydd o ddefnyddio gwlân gan ychwanegu gwerth ar yr un pryd.”
Mae'r prosiect yn awyddus i weithio gydag amrywiaeth o bobl a busnesau i ddatblygu cynnyrch i ddangos bod potensial i wlân Cymreig fel deunydd gwerthfawr.
Ychwanegodd Sioned McGuigan, swyddog prosiect Gwaned a Gwlân: “Mae costau cneifio bellach yn uwch na phris gwlân a ffermwyr yn wynebu heriau sylweddol wrth waredu gwlân yn flynyddol. Nod y prosiect yw ychwanegu gwerth ar draws y gadwyn gyflenwi o’r fferm i’r cynnyrch terfynol. Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn wych ac wrth i ni symud i’r camau nesaf o greu’r prototeipiau, rydym eisiau sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r prosiect.
“Os yn fusnes, ffermwr, cynhyrchwr neu’n rywun sydd â diddordeb yng nghefn gwlad, rydym eisiau clywed gennych chi a chyd-weithio ar y camau nesaf o ddatblygu’r cynnyrch. Dyma gyfle i fynegi eich diddordeb yn y cynllun, rhannu syniadau a chwarae rhan flaenllaw ym mhennod nesaf cyffrous y prosiect. Mae cofrestru’n broses hawdd, ewch draw i https://forms.office.com/r/tsMRKAdia6 i lenwi ffurflen fer.”
Mae Gwnaed a Gwlân yn cael ei ariannu gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020 a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
Diwedd
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Catrin Jones yn Menter Môn catrin@mentermon.com / 07376431432
Gwybodaeth i Olygyddion
- 1. Gall bobl fynegi diddordeb a chynnig syniadau drwy lenwi’r holiadur hwn: https://forms.office.com/r/tsMRKAdia6
- 2. Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth, y trydydd sector, busnes ac unigolion, mae Menter Môn yn denu arian o wahanol ffynonellau er mwyn ychwanegu gwerth a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.
- 3. Mae Partneriaid Gwaned a Gwlân yn cynnwys Menter Môn, British Wool a Chanolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor.
Menter Môn plans to put Welsh wool back on the map | North Wales Chronicle


