Trosolwg o'r Prosiect

Nôd prosiect 'Gwnaed a Gwlân' yw gwella dealltwriaeth pobl o'r ffibr gwych hwn, cefnogi atebion arloesol i heriau sy'n wynebu'r gadwyn gyflenwi, hwyluso cynnyrch newydd, a hwyluso cydweithio ar draws y gadwyn gyfan - "O'r Cnu i'r Cynnyrch"

Mae'r prosiect am weithio gyda phobl a busnesau i wireddu potensial gwlân fel deunydd naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas.

Menter Môn yw’r partner arweiniol, gyda British Wool (BW), Y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor a’r Awdurdod Profi Gwlân (WTA) yng Nghaernarfon, yn bartneriaid darparu.


Mae’r British Wool yn gwmni cydweithredol I’r ffermwyr sy’n cynrychioli 35,000 o gynhyrchwyr gwlân y DU. Mae strwythur ‘BW’ yn cynnwys 9 rhanbarth ac mae 2 ohonynt yng Nghymru (Gogledd Cymru a De Cymru). Mae gan pob rhanbarth ffermwr yn Aelod o’r bwrdd etholedig sy’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau cynhyrchwyr gwlân ar lefel bwrdd.
Mae’r Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor wedi dod ar flaen y gad o ran ymchwil, datblygu a chymhwyso masnachol dewisiadau bio-seiliedig i ddeunyddiau synthetig mewn gweithgynhyrchu a diwydiant.


Mae Canolfan yr Awdurdod Profi Gwlân ar gyfer Gogledd yr Hemisffer yng Nghaernarfon. Mae’r cwmni’n darparu gwasanaeth profi gwlân gwrthrychol, cost – effeithiol gyda sicrwydd annibyniaeth ac uniondeb.

wool

Gweithredu y Prosiect

Testio’r Gwlan

Bydd profion gwlân yn cael eu cynnig am ddim i ffermwyr, cyllid â glustnodwyd o £20K 

Datblygu Cynnyrch

Datblygu 5 cynnyrch newydd gyda potensial masnachol (prototeip). Treialu cynhyrchion arloesol gwerth uchel a wneir gan ddefnyddio Gwlân Cymreig

Astudiaethau Dichonoldeb

Bydd y prosiect yn casglu syniadau newydd am bynciau sy’n rhwystr i ddatblygiad o fewn y gadwyn gyflenwi busnes.

Rhwydweithio

Dod a pobol yngyd i hybu cydweithio gyda chyfleoedd rhyngweithio niferus gan gysylltu rhanddeiliaid ac ehangu rhwydweithiau trwy'r grwp clwstwr. 

Dysgu a Cynllun Mentora

Profiadau dysgu mewn gweithdai, ymweliadau safle a digwyddiadau hyfforddi

Maniffesto

Datblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y sector wlân yng Nghymru a ddatblygwyd gan aelodau'r Clwstwr Gwlân.

cyWelsh