Cwestiynau Cyffredin
Ein cwestiynau mwyaf cyffredin
Ymunwch gyda ein grŵp clwstwr er mwyn derbyn diweddariadau rheloaidd am y prosiect a’n digwyddiadau ac er mwyn cael y cyfle i gyfrannu eich barn chi i drafodaethau ynglŷn a lansiadau cynnyrch a chanlyniadau astudiaethau cwmpasu. Cofrestrwch Yma..
Gallwch hefyd ddilyn ein tudalennau cymdeithasol Facebook , Instagram a Twitter.
Mae’r dudalen ‘Trosolwg y Prosiect’ yn amlinellu gwahanol elfennau y cynllun. Gallwn gynnig cefnogaeth a chyfleoedd i rhanddeliaid ar hyd y gadwyn wlân.
Mae’r gefnogaeth yma yn ymestyn o gynnig gwasanaeth profi gwlân am ddim i ffermwyr i’w galluogi I ddarganfod gwerth eu gwlân, ac os oes modd ei wella, i gynnal astudiaethau cwmpasu i adnabod ac ymdrîn â rhwystron neu broblemau o fewn y gadwyn gyflenwi busnes.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnig profiadau dysgu mewn gweithdai, ymweliadau safle a digwyddiadau hyfforddi ac yn dod â phobl ynghyd gyda chyfleoedd rhwydweithio niferus er mwyn ehangu eich rhwydweithiau trwy'r grŵp clwstwr.
Mae croeso i chi gysylltu a’r tîm i drafod sut all y cynllun fod o fudd i chi.
Mae’r prosiect Gwnaed â Gwlân yn gweithio i ddatblygu 5 cynnyrch newydd gyda potensial masnachol (prototeip) ac i dreialu cynhyrchion arloesol o werth uchel a’u gwneir gan ddefnyddio Gwlân Cymreig
Os oes gennych syniadau yr hoffwch eu rhannu gyda ni, ebostiwch y tîm i drafod eich syniadau cychwynnol ar gwlan@mentermon.comYna gall y tîm gynnig rhagor o wybodaeth am y camau nesaf ac adnabod cysylltiadau posibl i symud y syniad yn ei flaen. I ddysgu am syniadau eraill y prosiect ymunwch â’r grŵp clwstwr.
Bydd y prosiect yn helpu pobl a busnesau ar hyd y gadwyn gyflenwi wlân drwy casglu syniadau newydd am bynciau sy’n rhwystr i’w ddatblygiad o fewn y sector. Bydd canfyddiadau yr astudiaethau yn cael eu rhannu a’u lledaenu ymhlith aelodau'r clwstwr a rhanddeiliaid eraill er mwyn bod yn fuddiol i bawb yn niwydiant gwlân Cymru.
Mae cronfa gyllid uchafswm o £30,000 wedi ei neilltuo ar gyfer yr astudiaethau. Rydym wedi amcangyfrif cefnogi hyd at 10 astudiaeth yn ystod oes y prosiect, h.y. tua £3,000 yr astudiaeth, gyda disgwl y bydd y costau’n amrywio yn ôl yr angen.
Gallwch ddarllen fwy am feini prawf a phroses yr astudiaethau cwmpasu yma.. (Welsh Version Here)
Bydd y ceisiadau yn cael eu hystyried ar sail cyntaf i’r felin.
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais astudiaeth cwmpasu, cysylltwch a’r tîm.
Rydym yn parhau i ddatblygu cronfa ddata cynhwysfawr o rhanddeiliaid ofewn y gadwyn wlân fydd yn caniatau I ni eich cysylltu â busnesau perthnasol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae hefyd yn cynnwys cynlluniau a all eich cefnogi i gychwyn eich busnes a'ch cysylltu â'r rhanddeiliad perthnasol ar hyd y gadwyn gyflenwi. Gallwch ei ddarganfod yma..
Os hoffwch chi gael eich ychwannegu cysylltwch a’r tîm.
Oes, mae profion gwlân am ddim ar gael drwy’r prosiect i ffermwyr sy’n byw yng Nghymru. Gan ddechrau o Ebrill 2022. Os oes gennych diddordeb, cysylltwch â’r tîm a gwlan@manetermon.com.
Mae cymeryd sampl gwlân ar gyfer y profion yn syml ac yn gyflym. Mae cyfarwyddiadau o’r broses a fideo byr ar gael yma.
Rydym yn cynnig cynllun peilot mentora gyda gweithwyr proffesiynnol ofewn y diwydiant gwlân. Os oes gennych ddiddordeb cael eich mentora neu cynnig eich hun fel mentor cysylltwch a’r tîm.
Daw’r cynllun hwn i ben ym mis Mehefin 2023.
Rydym yn croesawu syniadau gweithdy gan arbenigwyr yn y diwydiant a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r gadwyn cyflenwi gwlân. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'n cyfleoedd cysylltwch â'r tîm