Gwlân Cymreig - dyfodol gwell ar y gweill

Rhannwch y Post Hwn

Gyda phris am wlân yn parhau i ostwng mae cynllun newydd yn awyddus i gwrdd â ffermwyr i drafod cyfleodd i ddatblygu gwell bargen. 

Yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Menter Môn, bwriad ‘Gwnaed â Gwlân’ yw ychwanegu gwerth at wlân Cymreig fel cynnyrch naturiol a chynaliadwy. Am y tro cyntaf bydd tîm y prosiect yn mynychu Ffair Aeaf Cymru yn Llanelwedd ar y 29ain a’r 30ain o Dachwedd er mwyn cwrdd a chlywed barn ffermwyr o bob cwr o’r wlad. 

Mae costau cneifio bellach yn uwch na phris gwlân ac mae Sioned Prydderch McGuigan, Uwch Swyddog Prosiect newydd prosiect Gwaned a Gwlân, yn benderfynol o newid hyn.

Dywedodd: “Rydyn ni’n deall yr heriau mae ffermwyr yn wynebu wrth waredu gwlân yn flynyddol a’r bwlch sydd o ran cyfleodd i wneud defnydd llawn ohono. Fel tîm rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfarfod cymaint o bobl a phosib yn Llanelwedd er mwyn rhannu ein neges a dangos bod potensial i wlân Cymreig fel deunydd gwerthfawr.”

Fel rhan o’r cynllun bydd cyfle i ffermwyr ac eraill sydd â diddordeb yn y gadwyn cyflenwi fynychu hyfforddiant a chael profi eu gwlân yn y ganolfan arbenigol yng Nghaernarfon.

Ychwanegodd Sioned: “Mae hwn yn gynllun cyffrous ac mae gwir botensial i ni wneud gwahaniaeth nid yn unig i ffermwyr ond hefyd i sicrhau bod gwlân yn cael ei hyrwyddo a’i ddefnyddio mewn ffyrdd arloesol. Rydyn ni mewn oes ble mae cyfrifoldeb arnon ni i wneud mwy o ddefnydd o gynnyrch adnewyddadwy ac i edrych ar ffyrdd newydd o ddefnyddio deunyddiau naturiol fel gwlân.

“Ein neges felly - dewch i siarad efo ni yn Llanelwedd! Mae ar stondin 001 yn Neuadd De Morgannwg. Bydd y tîm i gyd yno a gallwch ddysgu mwy am y cynllun a sut fedrwch chi elwa.”

Mae Gwnaed a Gwlân yn cael ei ariannu gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020 a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD). 

Ends

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Sioned Prydderch McGuigan Sionedmc@mentermon.com neu Catrin Jones catrin@mentermon.com yn Menter Môn.

Llun: : Sioned McGuigan o dîm Gwnaed â Gwlân

Gwybodaeth i Olygyddion 

1. Bydd tîm Gwnaed a Gwlân ar stondin 001 Neuadd De Morgannwg yn y Ffair Aeaf, Llanelwedd ar y 29ain a’r 30ain o Dachwedd. 

2. Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth, y trydydd sector, busnes ac unigolion, mae Menter Môn yn denu arian o wahanol ffynonellau er mwyn ychwanegu gwerth a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.

3. Mae Partneriaid Gwaned a Gwlân yn cynnwys Menter Môn a British Wool 

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cael diweddariadau o'r prosiect

Mwy I ddarllen

cyWelsh