Mae'r 'Lorna Rose Collection' wedi elwa yn fawr o'r cynllun mentora â gynigwyd drwy Gwnaed â Gwlân. Roedd y broses o wneud cais yn syml iawn, ar ôl gyrru ebost yn ymholi ynglŷn a'r cynllun, derbynais ffurflen i'w lenwi oedd yn rhoi y cyfle imi fynegi pa fentoriaid hoffwn dderbyn mentora ganddynt. Roedd y ffurflen yn gyflym ac yn syml iawn, i'w lenwi.
"Mae'r cynllun mentora wedi fy helpu i ddod a fy syniad yn fyw gan nad oeddwn yn gwybod ble i ddechrau yngynt!"
Lorna Worral – Lorna Rose Collection

Er mwyn fy helpu i benderfynu ar fentor, gwyliais fideo gan bob un yn cyflwyno eu hunain a'u harbenigedd. Mae'r cynllun wedi bod yn hyblyg iawn, dewisais gael cyfarfodydd ar-lein gyda gohebiaith cyson dros ebost.
Mae'r cynllun mentora wedi fy helpu i ddod a fy syniad yn fyw gan nad oeddwn yn gwybod ble i ddechrau yngynt! Mae fy mentor wedi fy helpu gyda'r syniad busnes a rhoi cyfeiriad iddo. Gwnaeth hefyd fy helpu gyda brandio, gosod safle siopa ar-lein, penderfynnu ar logo a rhoi cyngor ar fy nhudalennau cymdeithasol yn ogystal â bod yn barod i ateb unrhyw gwestiynau eraill oedd gennyf.
Dilynwch @lornarosecollection ar Instagram a Facebook i gael diweddariadau ar fy nghasgliad gwlân Cymreig fydd yn cael ei ryddhau yn fuan.


