Hunaniaeth i Wlân Cymru

Rhannwch y Post Hwn

Mewn datblygiad cyffrous yn y diwydiant gwlân, ac sydd wedi ei groesawu gan un o brojectau Menter Môn, mae’n bosib ôl-rhain gwlân o’r cnu i’r cynnyrch ar raddfa eang diolch i lansiad cynllun ôl-rhain British Wool.

Un tîm sydd yn falch iawn o weld y datblygiad hwn yw’r prosiect Gwnaed â Gwlân, Menter Môn. Mae Gwnaed â Gwlân yn brosiect sy’n gweithio’n galed i wireddu potensial gwlân Cymru. Rhai o allbynnau’r prosiect yw treialu cynnyrch arloesol gwerth uchel a wneir gan ddefnyddio gwlân Cymru, cynnig profion gwlân am ddim i ffermwyr a dod â phobl ar draws y sector ynghyd. Mae’r prosiect yn cynnal astudiaethau cwmpasu sy’n gwahodd pobl i gysylltu â nhw os ydynt yn wynebu rhwystrau penodol o fewn y diwydiant neu os hoffent i astudiaethau dichonoldeb gael eu cynnal. Un o’r rhwystrau a nodwyd eisoes o fewn y sector oedd bod y rhan fwyaf o wlân Cymru yn cael ei brosesu a’i werthu ynghyd â gwlân o bob cornel o’r Deyrnas Unedig ac felly yn colli ei hunaniaeth Gymreig.

To solve this, British Wool launched a wool traceability scheme in 2021 that introduces transparency to the supply chain and enables customers to identify the provenance of their wool while offering a higher price to the farmers that sell their wool through the scheme. Gareth Jones, Head of Producer Marketing at British Wool, said, ‘This scheme was launched in response to our customers’ needs and their desire to be able to trace the wool back to the breed of sheep or specific area.’  During the first year of the scheme, over 500,000 kilos of traced wool was sold, equivalent to 250,000 sheep and British Wool will continue to expand the scheme.

Yn ôl Angharad Gwyn, Uwch Swyddog Prosiect Gwnaed â Gwlân, ‘Un o’r rhwystrau mwyaf a nodwyd yng nghyfnod datblygu’r prosiect Gwnaed â Gwlân oedd y gallu i ôl-rhain gwlân Cymru i’w darddiad ar ôl iddo gael ei gasglu, felly mae lansiad ôl-rhain British Wool yn ddatblygiad hynod werthfawr a chyffrous i’r holl sector ac yn gam mawr yn y gwaith o godi gwerth a hunaniaeth gwlân Cymru. Rydym hefyd yn falch iawn o allu gweithio mewn partneriaeth â British Wool i ddod â rhanddeiliaid o fewn y sector at ei gilydd a gweithio i wireddu ein cydweledigaeth am ddyfodol gwlân.’

Ychwanegodd Gareth Jones, wrth drafod partneriaeth British Wool gyda’r prosiect Gwnaed â Gwlân, ‘Mae British Wool yn gweld pwysigrwydd yn y prosiect Gwnaed â Gwlân ac yn falch o fod yn bartner, mae’r gwaith o ddatblygu’r prosiect gan y gwahanol rhanddeiliaid yn dangos bod brwdfrydedd yng Nghymru i ddatblygu’r sector gwlân a dod â rhanddeiliaid at ei gilydd sef union fwriad y prosiect.’


Bydd Gwnaed â Gwlân yn gweithio mewn partneriaeth â British Wool a’r Wool Testing Authority i gynnig profi gwlân am ddim i ffermwyr Cymru, bydd hyn yn eu galluogi i gael dealltwriaeth am safon eu gwlân ac os oes modd ei wella yn y gobaith o godi statws gwlân Cymreig fel nwydd gwerthfawr yn hytrach na sgil-gynnyrch. Mae Gwnaed â Gwlân hefyd yn parhau i gasglu syniadau ynglŷn â’r rhwystrau o fewn y sector er mwyn cynnal astudiaethau cwmpasu a dichonoldeb i ymdrin â materion a chefnogi’r sector. 

Caiff Gwnaed a Gwlân ei ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020 a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).

Diwedd

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Angharad Gwyn angharadg@mentermon.com neu Sioned Prydderch McGuigan sionedmc@mentermon.com yn Menter Môn.

Llun: : Logo ‘Gwnaed â Gwlân’, Menter Môn

Llun: : Logo ‘Welsh Wool’ o gynllun ôl-rhain British Wool 

Llun: Elen Parry Rheolwr y prosiect Gwnaed a Gwlan gyda Gareth Jones Pennaeth Marchnata Cynhyrchwyr British Wool yn depot Drenewydd British Wool

Gwybodaeth i Olygyddion

  1. 1. Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth, y trydydd sector, busnes ac unigolion, mae Menter Môn yn denu arian o wahanol ffynonellau er mwyn ychwanegu gwerth a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.
  2. 2. Mae Partneriaid Gwaned â Gwlân yn cynnwys Menter Môn a British Wool 

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cael diweddariadau o'r prosiect

Mwy I ddarllen

cyWelsh