Gwarchod Traddodiadau Melinau Gwlân Cymru: Llwyddiant Cynllun Prentisiaeth Melin Tregwynt

Rhannwch y Post Hwn

Mae melinau gwlân Cymru yn gwynebu'r her o gadw sgiliau gwehyddu traddodiadol yn fyw a denu cenedlaethau iau i barhau â'r grefft. Mae Melin Tregwynt yn mynd i’r afael â’r her hon drwy eu cynllun prentisiaeth, sy’n caniatáu i bobl ifanc aros yn eu hardal leol ac ymuno ag un o’r ychydig felinau sy’n dal i weithio yng Nghymru. Dechreuodd Katherine a Sean, y ddau yn bobl ifanc o’r ardal leol, eu cyflogaeth yn gaffi’r felin, heb unrhyw fwriad i ddod yn wehyddion. Fodd bynnag, ers hynny maent wedi datblygu eu gyrfaoedd o fewn y felin ac maent bellach yn wehyddion ymroddedig.
Dechreuodd Sean weithio yn y felin tra’n astudio ei lefel A yn yr ysgol, gan ddechrau mewn rôl ran-amser yn gweithio yn y siop a’r caffi cyn cael cynnig prentisiaeth i ymuno â’r felin.

Cysylltodd y rheolwr ar y pryd a gofyn os hoffwn ymuno â chynllun prentisiaeth i weithio yn y felin, gwrthodais i ddechrau gan fy mod yn meddwl y byddwn yn symud ymlaen o’r felin ond pan gynigiwyd yr un cyfle y flwyddyn ganlynol, penderfynais roi cynnig arni, 12 mlynedd yn ddiweddarach rydw i dal yma!

Sean
Llun: Melin Tregwynt

Dechreuodd Katherine, sydd bellach wedi bod yn gweithio ym Melin Tregwynt ers bron i 9 mlynedd, hefyd yn y caffi lle bu’n gweithio am lai na blwyddyn cyn ymuno â’r cynllun prentisiaeth.

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o gael pobl ifanc i gymryd rhan gan ei fod yn rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb yn y maes yn barod i ddysgu sgiliau newydd a gweld sut beth yw gweithio mewn melin.

Katherine

Fel rhan o'r cynllun prentisiaeth roedd Sean a Katherine yn gweithio yn y felin bedwar diwrnod yr wythnos ac yn treulio diwrnod yr wythnos yn astudio yng ngholeg Caerfyrddin. Mae’r ddau bellach yn rhan o Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr Melin Tregwynt sydd yn strwythur cyfreithiol lle mae cwmni yn eiddo i’w weithwyr ac mae ganddynt gyfran gyfunol yn y busnes trwy’r ymddiriedolaeth. Mae'n rhoi mwy o ymdeimlad o berchnogaeth a chyfranogiad i weithwyr yn y busnes er mwyn creu menter gynaliadwy a llwyddiannus.

Mae’n bwysig parhau i ddarparu cyfleoedd a chyflwyno pobl ifanc i’r gweithlu er mwyn cadw’r traddodiad a’r diwydiant yn fyw. Roedd tua 300 o felinau gwlân yn gweithio yng Nghymru ar un adeg, heddiw rydym yn un o tua 7 sy’n dal i sefyll ac mae bod mor llwyddiannus â ni, yn dipyn o gamp!

Sean
Llun: Melin Tregwynt

Yn ei anterth yn y 19eg ganrif, roedd tua 300 o felinau gwlân yng Nghymru, ond gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol a chyflwyno tecstilau rhatach wedi eu masgynhyrchu, caewyd llawer o felinau. Heddiw, dim ond ychydig o felinau sydd ar ôl, ond maent yn parhau i gynhyrchu cynhyrchion gwlân o ansawdd uchel sydd o werth am eu gwydnwch a'u patrymau unigryw. Mae Melin Tregwynt yn enghraifft wych o sut y gellir defnyddio cynlluniau prentisiaeth i gadw sgiliau traddodiadol a denu cenedlaethau iau i barhau â’r grefft. Trwy gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd a gweithio mewn melin leol, maent wedi datblygu tîm o wehyddion ymroddedig fel Katherine a Sean, sy’n cadw’r traddodiad gwehyddu yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cael diweddariadau o'r prosiect

Mwy I ddarllen

cyWelsh