Sicrhau dyfodol melinau gwlân Cymru

Rhannwch y Post Hwn

Mae diwydiant melinau gwlân Cymru yn wynebu her sylweddol wrth geisio addasu i’r dyfodol a chwrdd â galw marchnad sy’n newid yn gyson. Dyma ganfyddiad gwaith ymchwil newydd gan gynllun Gwnaed a Gwlân.

Comisiynwyd yr astudiaeth mewn ymateb i rwystredigaeth dylunwyr tecstilau oedd yn awyddus i gael gwehyddu eu gwaith yng Nghymru ond yn methu oherwydd cyfyngiadau’r melinau. O ganlyniad i sawl ffactor mae melinau gwlân Cymreig yn gorfod troi gwaith i ffwrdd, ond yn bennaf oherwydd diffyg capasiti i gwrdd â’r galw. O’r rhai sy’n gallu derbyn gwaith comisiwn mae amser aros o chwe mis.

Mae llawer o ddatblygiadau cadarnhaol ar y gweill ond y pryder mwyaf erbyn hyn yw ceisio diogelu’r melinau at y dyfodol a chadw sgiliau yn fyw.

Sefydlwyd Gwnaed a Gwlân i wireddu potensial gwlân Cymreig, ac roedd cynnal yr astudiaeth hwn yn rhan o’r gwaith hwnnw. Mae’r adroddiad yn rhoi gwerthusiad o’r sefyllfa ac yn cynnig atebion i oresgyn rhai o’r heriau yn ogystal ag adnabod cyfleoedd newydd. Y gobaith yn y pen draw yw bydd y gwaith yn arwain at roi camau mewn lle i amddiffyn a hybu melinau gwlân yng Nghymru. Mae Elen Parry, rheolwr prosiect Gwnaed a Gwlân yn egluro:

“Mae galw am gynnyrch gwlân o Gymru yn parhau i gynyddu a dyluniadau gwlân a charthenni Cymreig yn boblogaidd ar draws y byd. Mae’r diwydiant wedi bod wrth galon sawl cymuned Gymreig ers canrifoedd - ond gyda’r heriau newydd mae angen cymorth a mwy o sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Dyma ble mae Gwnaed a Gwlân yn ceisio chwarae rôl. Mae llawer yn mynd ymlaen yn barod i gefnogi busnesau ac mae’n bwysig ein bod ni yn gweithredu ar y cyd er mwyn cefnogi’r diwydiant cynhenid yma.”

Elen Parry, Rheolwr prosiect Gwnaed â Gwlân
Yr Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre

Yn ei anterth roedd dros 300 melin wlân yn gweithredu ar hyd a lled Cymru, bellach mae llai na 15 ar ôl. O’r rhain, dim ond 5 sy’n gweithio ar raddfa ddiwydiannol, ac er bod galw cynyddol am y cynnyrch, mae peth ansicrwydd am ddyfodol y diwydiant. Dywedodd Eifion Griffiths o Melin Tregwynt, yn Sir Benfro:

“Mae hanes y felin hon yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth ac rydym yn gwerthu i gwsmeriaid o bob cwr o’r byd. Mae newid wedi bod ym mhatrymau prynu cwsmeriaid yn ddiweddar gyda llawer eisiau prynu cynnyrch cynaliadwy ac yn lleol hefyd.

Mae’r galw wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n newyddion da ar un llaw ond mae’n anodd dal i fyny â’r galw hwnnw. Mae llawer sy’n gweithio yn y maes yn hŷn ac mae’n ymdrech i nifer o fusnesau ddenu pobl ifanc i’r maes. Gyda chynllun fel Gwnaed a Gwlân rwy’n hyderus bod cyfnod cyffrous o’n blaenau a chyfle i wneud gwahaniaeth er mwyn diogelu diwydiant sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn niwylliant a hanes cymunedau Cymreig.”

Eifion Griffiths, Melin Tregwynt
Eifion Griffiths, Melin Tregwynt

Fel cam nesaf mae Gwnaed â Gwlân yn cynnal digwyddiad ar y 16eg o Chwefror yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre. Bydd yn gyfle i berchnogion melinau a rhanddeiliaid y diwydiant ddod at ei gilydd ar gyfer cyflwyniadau a sgyrsiau am arloesedd gwlân a’r diweddaraf o’r prosiect.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb i fynychu’r digwyddiad ym mis Chwefror. Am fwy o wybodaeth ac i sicrhau lle yn y digwyddiad mae’r tîm yn gofyn i bobl ebostio gwlan@mentermon.com cyn y 6edeg o Chwefror.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cael diweddariadau o'r prosiect

Mwy I ddarllen

cyWelsh