Mae’r prosiect ‘Gwnaed â Gwlân’ yn gweithio i adnabod rhwystrau i ddatblygiad busnesau o fewn y gadwyn gyflenwi gwlân ac i godi gwerth gwlân yng Nghymru. Fel rhan o’u hymgyrch maent yn comisiynu astudiaethau ar wahanol bynciau, un o'r mentrau gafodd eu cyflwyno iddynt gan Gyngor Sir Ynys Môn yw'r defnydd o wlân defaid mewn llwybrau cerdded. Wedi eu cyllido ar y cyd drwy ‘Gwnaed â Gwlân’ a LEADER, mae’r llwybrau gwlân yn cael eu treialu mewn lleoliadau ar draws Ynys Môn yn y gobaith y byddent yn cynnig opsiynau cynaliadwy mewn adeiladu llwybrau a chyflwyno defnydd a galw newydd am wlân Cymreig.
Wrth adeiladu llwybrau gwlân, defnyddir gwlân defaid fel sail i groesi ardaloedd gwlyb ac i drwsio llwybrau mewn ffordd naturiol a chynaliadwy. Mae'r broses yn cynnwys gosod y cnu fel dewis amgen, ecogyfeillgar yn lle’r defnydd synthetig a ddefnyddir fel arfer mewn sylfaen llwybrau cerdded. Daeth y gwlân a ddefnyddiwyd yn lleol o Fetws y Coed drwy gynllun olrhain Gwlân Prydain, trwy'r cynllun bydd y ffermwyr yn derbyn pris premiwm am eu gwlân.





Yn dilyn wythnosau o gasglu gwybodaeth ac ymgynghori â grwpiau o Aberhonddu, Ardal y Llynnoedd ac Ynys Skye sydd eisoes wedi adeiladu llwybrau gwlân llwyddiannus, buodd tîm y prosiect yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o'r gymuned ac o Cwlwm Seiriol i adeiladu llwybrau gwlân i’w treialu ger Castell Aberlleiniog ac yn Rhos Llaniestyn, Llanddona. Gan fod safle Aberlleiniog o arwyddocâd archeolegol cenedlaethol cafwyd caniatâd gan CADW i dreialu'r gwlân ar hyd y llwybrau sydd yn mesur 74 metr o hyd. Cloddiwyd wyneb y llwybr dan oruchwyliaeth aelodau Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ac fe dorrwyd coed oedd wedi eu heintio a chlefyd i'w defnyddio i greu ochrau’r llwybr. Defnyddiwyd ceffylau cob Cymreig i symud y coed a gwympwyd i'w lle er mwyn lleihau'r aflonyddwch i'r tir a fyddai'n debygol o gael ei achosi gan y defnydd o beiriannau trwm. Fe osodwyd y cnu yn wastad mewn haenau i orchuddio lled llawn y llwybr ar gymhareb o tua 4 cnu y medr, cyn cael eu gorchuddio â thua 75mm o gerrig mân.
Cafwyd caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i adeiladu llwybr gwlân yn Rhos Llaniestyn, Llanddona. Roedd y llwybr mewn tri darn ac yn mesur 35 metr mewn hyd. Oherwydd ei natur gorsiog, roedd angen sylfaen ddyfnach ac felly defnyddiwyd peiriant i’w gloddio, gydag ardaloedd mwy bregus yn cael eu cloddio â llaw i leihau'r effaith ar y tirwedd cyfagos. Mewn ardaloedd llai gorsiog o'r llwybr gosodwyd y cnu'n fflat mewn haenau, rhoddwyd sylfaen ddyfnach i ardaloedd mwy gwlŷb a gorsiog a’i drin gyda cnu wedi'u rholio a dau haenen o gnu wedi eu gosod yn fflat ar eu pennau er mwyn reoli lleithder a lleihau’r nifer o gerrig fydd eu hangen. Cymerwyd ofal i sicrhau fod y cnu wedi eu pacio yn dyn er mwyn rhoi gwely cadarn i'r cerrig gael eu taenu arno. Gosodwyd cerrig man ar ei ben i gywasgu'r gwlân a chynnig arwyneb sefydlog i gerddwyr tra’n sicrhau bod uchder y llwybr yn uwch na’r llystyfiant o'i amgylch.
"'Mae'n wych gallu gweithio ochr yn ochr â Cyngor Sir Ynys Môn, LEADER a'n gwirfoddolwyr arbennig i gyflawni'r llwybrau gwlân yma, a fydd o ddefnydd i'r gymuned leol am flynyddoedd i ddod tra hefyd yn cynnig pris premiwm i’r ffermwyr lleol am eu gwlân drwy cynllun olrhain Gwlân Prydain. Mae treialon fel hyn yn rhan annatod i'r broses o ddarganfod ffyrdd o ddefnyddio gwlân i wella ein hamgylchedd a lleihau ein heffaith ar y byd o’n hamgylch tra’n helpu i godi pris gwlân Cymreig. Mi fyddwn fel prosiect yn llunio dogfen sydd yn amlinellu sut i adeiladu'r llwybrau gwlân yn y gobaith y gall grwpiau neu unigolion eraill ddefnyddio'r wybodaeth i adeiladu eu llwybrau eu hunain."
Elen Parry, Rheolwr prosiect Gwnaed â Gwlân
Defnyddiwyd tri bêl o wlân wrth adeiladu'r llwybrau, sydd yn gywerth i o gwmpas 700 o gnu ac erbyn hyn mae’r llwybrau wedi eu cwblhau. Bydd tîm yn ymweld â’r llwybrau cyn diwedd yr haf i ychwanegu at unrhyw fannau sydd wedi dirywio. Bydd y llwybrau hefyd yn cael eu monitro a'u hadolygu ar sail sut y byddent yn perfformio o'u cymharu â'r defnydd sail plastig sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ac ar sail unrhyw effeithiau ar yr amgylchoedd ecolegol. Mae'r defnydd o wlân defaid mewn llwybrau troed yn dechneg hynafol, yn hanesyddol fe'i defnyddiwyd yn helaeth i drwsio llwybrau ledled y wlad, fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn dechneg nad yw’n cael ei ddefnyddio yn aml mewn adeiladwaith cyfoes. Y gobaith yw y bydd y treial hwn yn fenter wych i godi ymwybyddiaeth ac i hyrwyddo'r defnydd o ddefnyddiau amgen sydd yn gynaliadwy a naturiol wrth adeiladu llwybrau troed tra hefyd yn cyflwyno defnyddiau a galw newydd am wlân Cymreig.


