Mae Gwnaed â Gwlân wedi lansio maniffesto gwlân Cymru, mae'r maniffesto hwn yn ganlyniad o gyfres o weithdai a hwyluswyd gan y prosiect yn dros aeaf 2021/22. Mynychwyd y gweithdai gan aelodau o glwsywr gwlân Cymru er mwyn iddynt allu trafod a rhannu eu syniadau a'u meddyliau ynglŷn a dyfodol y diwydiant yng Nhymru dros y degawd nesaf.
Rydym yn croesawu y maniffesto yma heddiw, mae'n wych cael maniffesto sydd yn dod a phawb sydd ynghlwm a'r diwydiant ac ynghlwm a cheisio codi gwerth gwlân ynghŷd ac felly mae'n rhywbeth i'w groesawu. Rydym yn edrych ymlaen i gyd-weithio â Gwnaed â Gwlân a phrosiectau eraill sydd yn gweithio tuag at godi gwerth gwlân Cymreig.
Nerys Llewelyn Jones - Cadeirydd, Gwlân o Wlad y Gân.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn depo British Wool yn Drenewydd ac fe fynychwyd gan nifer o randdeiliaid y diwydiant ar hyd y gadwyn gyflenwi yn ogystal a ffermwyr lleol.













