Heddiw plannwyd gard coeden a roddwyd i ni i'w dreialu gan Gill o Gwlangollen. Mae 'r gard wedi ei greu o wlân Balwen 100% Cymreig o fferm leol yn Llangollen.



Cai'r gwlân ei sgertio, ei lanhau, ei olchi, ei bigo aa'r gardio â llaw cyn iddo gael ei feltio'n wlŷb (wet felting) mewn gweithdy gwlangollen fel rhan o gwrs merched mewn amaethyddiaeth. Atgyfnerthwyd y tabiau ymhellach gan ffeltio â nodwydd.
Bydd y gard coeden yn cael ei fonitro yn reolaidd, Cawn weld sut y bydd yn goroesi yn Ynys Môn!
I ddysgu mwy am Gwlangllen a'r gweithdai maent yn eu cynnig, ewch i'w gwefan yma.


