Sefydlwyr 'Wool Insulation Wales' wedi dod at eu gilydd drwy'r prosiect Gwnaed â Gwlân

Rhannwch y Post Hwn

Wedi ei sefydlu gan Mair Jones a Ruth-Marie, mae 'Wool Insulation Wales' yn cefnogi cynhyrchwyr gwlân Cymru a datgarboneiddio ein hamgylchedd adeiledig. Roedd Mair a Ruth-Marie yn aelodau o glwstwr gwlân Cymru, y prosiect Gwnaed â Gwlân, cafodd y clwstwr ei sefydlu er mwyn dod a rhanddeiliaid gwlân ynghŷd ac wedi helpu Mair a Ruth-Marie ffindio partner busnes o'r un meddylfryd.

Pwy yw Wool Insulation Wales Ltd?

Mair Jones
Cafodd Mair ei magu ar fferm cig eidion a defaid ger Abertawe ac mae bellach yn gweithio yn y sector cynaliadwyedd a datgarboneiddio, mae'n eiriolwr dros atebion sy'n seiliedig ar natur i helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gwella ansawdd aer dan dô ein cartrefi ar gyfer iechyd a llês.
Mae Mair wedi cyd-sefydlu'r busnes gyda Ruth-Marie a bydd y fenter yn cynyddu gwerth gwlân Cymru drwy ddychwelyd premiwm yn uniongyrchol i gynhyrchwyr drwy gynllun ôlrhain Cymreig British Wool.

Ruth-Marie
Mae gan Ruth-Marie dros 30 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyllid, eiddo ac adeiladu gan gynnwys ar lefel bwrdd. Yngŷd â Mair, hi yw sefydlwr 'Wool Insulation Wales Limited'. Maent yn bwriadu datblygu a dosbarthu cynhyrchion insiwleiddio gwlân defaid Cymreig ar raddfa fawr i gynhorthwyo at wella effeithiolrwydd ynni pob math o eiddo yn ogystal â chefnogi sector ffermio Cymru.

Gallwch ymuno â clwstwr gwlân Cymru yma..
Os allwn eich helpu i wneud cysylltiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar gwlan@mentermon.com


Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cael diweddariadau o'r prosiect

Mwy I ddarllen

cyWelsh